Cyflwynwyd yr ymateb hwn i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gyfer yr ymchwiliad i Gydlyniant Cymdeithasol

This response was submitted to the Equality and Social justice Committee on the inquiry into Social Cohesion

SC 06
Ymateb gan: Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru)
Response from: Cytûn (Churches together in Wales)

_____________________________________________________________________________________

Mae Cytûn yn dwyn ynghyd 16 o enwadau Cristnogol yng Nghymru, ynghyd â nifer o gynulleidfaoedd annibynnol ac elusennau Cristnogol sy’n gweithredu yng Nghymru, i weithio ar faterion sydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr, gan gynnwys dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a’r Senedd. Mae rhestr lawn o’r aelodau i’w gweld yn: https://www.cytun.co.uk/pwy-ydym-ni/

Mae’r dystiolaeth hon wedi’i gasglu o wybodaeth a gyflwynwyd gan swyddogion eglwysi a sefydliadau sy’n aelodau, darllenwyr Bwletin Polisi Cytûn ac – yn arbennig – aelodau Rhwydwaith Cyfiawnder Hiliol Cytûn.

      Y materion allweddol sy’n effeithio ar gydlyniant cymdeithasol yng Nghymru ac ystyried a oes angen i ymyriadau dargedu grwpiau penodol o bobl, ardaloedd daearyddol neu faterion allweddol.

Mae eglwysi Cristnogol bob amser wedi rhoi pwys mawr ar feithrin cydlyniant cymdeithasol, yn enwedig ar lefel gymunedol. Mae’r cysyniad hanesyddol o eglwys yn gwasanaethu holl bobl y “plwyf” (defnyddir geiriau eraill erbyn heddiw), beth bynnag fo’u credoau, yn parhau i fod yn gryf. Mae’n dal i gael ei hymgorffori yn y gyfraith o ran dyletswydd yr Eglwys yng Nghymru i fedyddio, priodi a chladdu plwyfolion – mae’r olaf yn cael ei harchwilio ar hyn o bryd gan adolygiad Comisiwn y Gyfraith o gyfraith claddu ac amlosgi. Er nad yw'n ofyniad cyfreithiol, mae aelod eglwysi eraill Cytûn yn teimlo rhwymedigaeth debyg tuag at holl ddinasyddion eu cymuned leol.

Mae hyn yn ymestyn tu hwnt i ddigwyddiadau bywyd o'r fath, i ddiwallu anghenion addysgol, diwylliannol a materol pobl leol mewn amrywiol ffyrdd, a sicrhau bod adeiladau eglwysig ar gael i grwpiau cymunedol eraill at ddibenion o'r fath. Astudiaeth ddiweddar o’r fath weithgarwch, sy’n canolbwyntio ar ofal iechyd ffurfiol ac anffurfiol gyda sawl enghraifft o Gymru, yw’r adroddiad House of Good: Health gan y National Churches Trust. Mae bron pob cynulleidfa o fewn enwadau Cytûn yn cynnal, cyd-gynnal neu’n casglu ar gyfer Banciau Bwyd neu pantris lleol, ac mae llawer yn rhan o fenter Croeso Cynnesi ddarparu mannau cynnes trwy’r gaeaf. Mae eglwysi lleol yn adrodd bod amrywiaeth eang o bobl yn defnyddio’r cyfleusterau hyn, yn aml yn fwy amrywiol na’r gynulleidfa sy’n cartrefu’r gwasanaeth. Mae’r Gynghrair Efengylaidd yn casglu gwybodaeth am weithgareddau o’r fath gan bob traddodiad ffydd drwy’r arolwg Ffydd yng Nghymru.

Agwedd bwysig ar gydlyniant cymunedol y mae llawer o eglwysi’n cyfrannu ati yw pontio’r bwlch rhwng cymunedau ieithyddol. Tra’r arferwyd ystyried bod eglwysi naill ai yn gwbl Gymraeg neu Saesneg eu hiaith, mae newidiadau demograffig yn golygu bod y cymunedau ieithyddol hyn yn cydfodoli yn yr un ardal. Mae darparu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg i blant ac oedolion, cartrefu Cylchoedd Meithrin a Mentrau Iaith, a darparu cyfieithu ar y pryd neu daflenni esboniadol ar gyfer addolwyr di-Gymraeg yn golygu bod llawer o eglwysi Cymraeg yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol ieithyddol. Yn yr un modd, mae cartrefu a chydweithio gydag eglwysi sy’n defnyddio ieithoedd heblaw’r Gymraeg neu’r Saesneg yn fwyfwy cyffredin – gweler isod am enghreifftiau o hyn.

Roedd Cytûn yn rhan Grŵp Cydnerthedd Cymunedol blaenorol Llywodraeth Cymru, a mae gan rai Ffora Cydnerthedd Lleol gynrychiolaeth ffydd, ond bylchog yw’r gynrychiolaeth ffydd ar gyrff cenedlaethol o’r fath, ac rydym yn gresynu at ddiffyg grŵp rhanddeiliaid cenedlaethol ar gyfer y Strategaeth Cydlyniant Cymunedol bresennol. Credwn ei bod yn bwysig i bob gwaith er hybu cydlyniant cymdeithasol ystyried cymunedau ffydd ac ymrwymiadau ffydd poblogaethau ymylol. Er enghraifft, mae cyfrifiad 2021 yn dangos lefelau uwch o ymlyniad crefyddol ymhlith llawer o boblogaethau lleiafrifoedd ethnig nag yn y boblogaeth wyn[1], gan awgrymu bod gweithio trwy grwpiau ffydd yn galluogi mwy o gyfranogiad gan grwpiau lleiafrifol. I bobl o bob grŵp ethnig, mae crefydd yn aml yn elfen bwysig o hunaniaeth y mae angen i wasanaethau cyhoeddus ei hystyried wrth gynllunio gwasanaethau, yn enwedig y rhai sydd er hybu cydlyniant rhwng gwahanol grwpiau.

      Enghreifftiau o arfer gorau ac ymyriadau eraill/sydd eu hangen i gefnogi cydlyniant cymdeithasol a dileu tensiynau. Mae hyn yn cynnwys deall y rôl y mae’r trydydd sector yn ei chwarae wrth gefnogi cydlyniant cymdeithasol a pha rwystrau y mae’n eu hwynebu, gan gynnwys o ran cyllid.

      Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i grwpiau a sefydliadau cymunedol a nodi unrhyw gyfleoedd i gymorth ychwanegol gael ei ddarparu. Mae hyn yn cynnwys archwilio’r cyfyngiadau a’r rhwystrau sy’n bodoli, gan gofio bod rhai agweddau ar gefnogi cydlyniant yn faterion a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU (er enghraifft plismona, y cyfryngau, a rheoleiddio’r rhyngrwyd), a pha gamau y gellid eu cymryd i oresgyn yr heriau hyn.

Mae pob grŵp crefyddol yn rhan o’r trydydd sector. Gan fod unrhyw gyllid cyhoeddus ar raddfa fawr ar gyfer grwpiau ffydd wedi’i gyfyngu’n gyffredinol i gyllid ar gyfer yr adeilad, drwy Cadw (yn achos addoldai hanesyddol) neu’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, tra bod y gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn cael eu hariannu’n gyfan gwbl drwy roddion gwirfoddol neu ymdrechion codi arian gan y gymuned ffydd dan sylw. Mae mwyafrif helaeth y gweithgareddau mewn addoldai yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr.

Mae diffyg arian cyhoeddus, er y gall fod yn heriol, hefyd yn rhoi rhyddid i eglwysi arloesi a chwrdd â’r anghenion lleol maent yn eu gweld heb unrhyw ofyniad i gwrdd â meini prawf a bennir yn allanol gan arianwyr cyhoeddus. Nid yw rhai ffynonellau cyllid cyhoeddus ar gael ar gyfer “gweithgareddau crefyddol”, hyd yn oed pan fyddant ar gael i sefydliadau sy'n hyrwyddo gwerthoedd a ffyrdd anghrefyddol o fyw. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gyfyngu’r meini prawf gwahardd ar gyfer rhai cronfeydd trydydd sector i “proselytiaeth” yn hytrach na phob gweithgaredd crefyddol, a byddem yn annog y Pwyllgor i argymell y dylai mudiadau ffydd fod yn gymwys i wneud cais am bob cynllun ariannu trydydd sector ar yr un sail ag eraill.

Mae enghreifftiau niferus ac amrywiol o eglwysi sy’n hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol yng Nghymru. Darparwn yma ddyrnaid yn unig o blith aelodaeth Cytûn.

      Mae eglwysi Clydach, Cwm Tawe, wedi cyd-sefydlu Tŷ Croeso, cyfleuster cymunedol sy'n cynnig Banc Bwyd, Canolfan Croeso Cynnes, Caffi Trwsio, grwpiau sgwrsio Cymraeg a siop ail law o'r enw O Law i Law. Wrth i’r gwaith hwn ehangu ei wasanaeth i’r gymuned, mae’r rhai sy’n ei redeg yn adrodd ei bod yn nodedig, oherwydd ethos dwyieithog y cyfleuster, fod aelodau’r gymuned sy’n siarad ieithoedd eraill yn teimlo’n gyfforddus yn siarad eu hiaith eu hunain yn y ganolfan, yn hytrach na theimlo bod angen iddynt droi at y Saesneg bob amser. Mae presenoldeb ffoaduriaid o wahanol rannau o’r byd yn y gymuned wedi galluogi creu cyswllt gyda gwaith plant Mwslimaidd yn Abertawe, ac mae cyd-gefnogaeth ar draws ffydd, hil, crefydd ac iaith yn creu cymuned fwy cydlynol.

      Sefydlwyd Tŷ’r Gymuned, Maendy, Casnewydd, yn wreiddiol gan gynulleidfa o Eglwys Bresbyteraidd Cymru, sy'n parhau i brydlesu'r adeilad gan ymddiriedolaeth gymunedol aml-bartner. Mae Tŷ’r Gymuned yn cynnal amrywiaeth eang o waith. Er enghraifft, ariennir Prosiect Ieuenctid Cymunedol gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a BBC Plant Mewn Angen ac mae wedi’i gynllunio i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc hyd at 25 oed ym Maendy a Chasnewydd. Yn ddiweddar, enillwyd y Marc Ansawdd efydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae clwb bechgyn, clwb merched, Chwaraeon a Chwarae, Fforwm Ieuenctid, amser cefnogi bywyd a chyfleuster galw heibio. Mae yna hefyd stiwdio gerddoriaeth y gellir trefnu ei defnyddio. Ar hyn o bryd mae 6 gweithiwr ieuenctid. Mae llawer o’r bobl ifanc o gefndir Dwyrain Ewrop, Roma yn bennaf, a chynhaliwyd digwyddiad Hawliau Dynol ym mis Rhagfyr, ar ôl i un o’r tîm fod ar gwrs hyfforddi 10 diwrnod ar Addysg Hawliau Dynol. Roedd hyn ar ôl gwneud llawer o waith ar Hawliau Dynol a gorchuddio dwy wal coridor gyda phosteri a syniadau. Roedd y noson yn fwrlwm o egni a braf oedd gweld rhieni yno yn mwynhau cyd-ddawnsio.

Mae Bundles yn darparu'r offer angenrheidiol, dillad ac ati ar gyfer mamau gyda babanod a phlant bach a mae prosiect Hwiangerdd newydd gan Operasonic ar gyfer mamau a'u babanod. Grŵp arall a sefydlwyd yn ddiweddar yw ‘Te a Sgwrs’ i fenywod gael sgwrs agored, cefnogi ei gilydd a rhannu profiadau. Mae FoodCycle yn parhau i gyflenwi pryd 3 chwrs am ddim bob wythnos i bwy bynnag a ddaw.

Mae Coffee’n’Laughs yn grŵp Merched Rhyng-ffydd llewyrchus. Aeth 30 o’r merched, Mwslimiaid yn bennaf, ar fws i’r achlysur rhyng-ffydd yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen ym mis Gorffennaf 2024, yng nghwmni tair o Gyngor Rhyng-ffydd Cymru, ar wahoddiad Rhyng-ffydd Gogledd Cymru. Talwyd am y bws gan Race Equality First.

Adeg Nadolig 2024 rhannodd y gynulleidfa Bresbyteraidd wasanaeth Cristingl gydag Eglwys Dduw (eglwys gydag arweinyddiaeth croenddu), sydd wedi bod yn addoli yn Nhŷ’r Gymuned ers tuag 20 mlynedd. Mae hyn yn adlewyrchu perthynas wirioneddol gynnes rhwng y ddwy gynulleidfa, er gwaethaf arddulliau a chefndiroedd addoli gwahanol iawn.

Mae Tŷ’r Gymuned yn hanfodol i hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol ym Maendy, lle – fel y dengys yr enghreifftiau uchod – mae ffydd yn elfen allweddol o fywyd lleol.

 

      Mae Canolfan y Drindod, Heol Casnewydd, Caerdydd yn eiddo i'r Eglwys Fethodistaidd. Pan benderfynodd y gynulleidfa flaenorol na allent gynnal yr adeilad hanesyddol mawr, cytunodd Cylchdaith Methodistaidd Caerdydd sicrhau bod yr adeilad ar gael i gynulleidfaoedd eraill oedd yn chwilio am gartref. Mae'r rhain ar hyn o bryd yn cynnwys cynulleidfa Wrdw, Hindi a Phwnjabi ar nos Sul – sydd hefyd yn cyfarfod yn Abertawe a Chastell-nedd. Anogir yr haelodau hefyd i ymgysylltu ag eglwysi lleol sy'n addoli yn Saesneg; cynulleidfa Uniongred Ethiopia; ac eglwys Mar Thoma (Indiaidd).

Mae’r Ganolfan yn chwarae rhan bwysig o ran gwaith gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan ddarparu dosbarthiadau iaith Saesneg, prosiect celf, prosiect partner geni, boreau coffi, a chanolfan galw heibio Space4ULlun yn cynnwys testun, cerdyn busnes, bedyddfaen, logo  Wedi cynhyrchu’r disgrifiad yn awtomatig, yn ogystal â gofod ar gyfer gwaith Student Action for Refugees a Displaced People in Action. Mae yna ardd gegin gymunedol a grŵp Cocaine Anonymous, y ddau ar gael i bawb yn lleol. Mae’r Ganolfan yn fan lle mae pobl o lu o ieithoedd, cenhedloedd, cefniroedd ethnig a chredoau yn cymysgu’n gyfforddus, ac mae gwaith y Ganolfan yn adeiladu cydlyniant cymdeithasol ar draws yr ardal.

Yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth, mae’r Ganolfan yn ail-agor i’r cyhoedd ar Fawrth 22-23. Yn y cyfamser, mae eglwysi lleol eraill wedi cartrefu’r gwaith er mwyn iddo barhau. Er enghraifft, mae llawer o weithgareddau wedi’u cynnal yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig Parkminster gerllaw, a drefnodd wasanaeth carolau ar y cyd â’r gynulleidfa Wrdw, Hindi a Phwnjabeg, a chynulleidfa Philipinaidd sydd wedi defnyddio Parkminster ers rhai blynyddoedd, a chanwyd carolau mewn amrywiol ieithoedd – gan gynnwys hefyd y Gymraeg a’r Saesneg. Mae Eglwys yng Nghymru St German hefyd wedi cartrefu gweithgareddau a ddadleolwyd. Mae'r tarfu angenrheidiol hwn wedi bod yn fodd felly i adeiladu cysylltiadau cymunedol ychwanegol a helpu cydlyniant cymdeithasol ymhellach.

•           Ffurfiwyd Eglwys Undebol Treganna, Caerdydd trwy gyfuno un o eglwysi’r Bedyddwyr a dwy eglwys Ddiwygiedig Unedig. Mae ei chynulleidfa yn cynnwys pobl â chefndir o wledydd gan gynnwys UDA; yr Iseldiroedd; Japan; Hwngari; Canada a Nigeria, a mae rhai ohonynt bellach mewn swyddi arweinyddol yn yr eglwys. Dywed yr eglwys, “Ein cenhadaeth o fewn y gynulleidfa hynod amrywiol hon, y grŵp arddegau a’r Eglwys Iau, yw dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio’r cryfderau a’r diddordebau unigryw sydd gennym a’u defnyddio er lles cydlyniant o fewn a thu allan i’r aelodaeth graidd.” Fel rhan o'r nod hwn, pleidleisiodd yr eglwys i ganiatáu defnyddio eu heiddo ar gyfer seremonïau priodas o'r un rhyw.

Mae'r gymdogaeth o amgylch yr eglwys yn amrywiol iawn o ran diwylliant, oedran, addysg a lefelau incwm. Mae'r eglwys ar hyn o bryd yn edrych i ehangu'r ardd bresennol i fod yn ardd gymunedol fwy o faint, gyda chymaint o gyfranogiad ag y gallwn ei annog o'r enfys o grwpiau defnyddwyr posibl. Bydd yr ardd newydd hon ar agor i’r gymdogaeth ei mwynhau, trwy dyfu planhigion bwytadwy, a darparu man tawel i orffwys ac ymlacio. Eisoes mae gardd fechan wrth ochr yr eglwys ac mae’r eglwys wedi ennill gwobr efydd Eco Church, sy’n dangos ei gofal a’i chonsyrn am yr amgylchedd.

Yn ogystal ag addoli yn rheolaidd ar y Sul, mae'r eglwys yn darparu lleoliad ar gyfer gweithgareddau cymunedol gan gorau cymunedol; cyngherddau; grwpiau a gynhelir gan y Cyngor a'r GIG; ac mae cangen o Alcoholics Anonymous yn cyfarfod yn ddyddiol. Mae grŵp yr arddegau ac eraill yn hybu dealltwriaeth yr eglwys a’i hymwneud â materion cyfoes megis yr amgylchedd, lloches a digartrefedd. Dywed yr eglwys, “Rydym yn eglwys sy’n croesawu ac yn mwynhau’r gwahaniaethau rhwng ein haelodau a’r rhai sy’n defnyddio’n cyfleusterau. Credwn fod parhad ein bodolaeth fel eglwys yn dibynnu’n rhannol ar arfer a hyrwyddo amrywiaeth, fel y gallwn fod yn barod ar gyfer Teyrnas Dduw.”

      Sefydlwyd Canolfan ASK yn y Rhylgan Christ Church (Eglwys Ddiwygiedig Unedig a Phresbyteraidd). Mae ganddi bum elfen i’w gwaith:

o Cyngor a gynigir trwy Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych

o Bwyd i'r rhai mewn angen, trwy fanc bwyd a chaffi

o Cyfleusterau a ddefnyddir yn helaeth gan ystod eang o grwpiau cymunedol

o Addoli trwy fywyd y gymuned eglwysig

o Cydlyniant Cymunedol trwy gynnig y cyfan mewn un lleoliad.

Mae'r amrywiaeth o bobl, o wahanol rannau’r gymuned amrywiol, a welir o fewn ei muriau pan fydd ar agor, yn ddarlun o adeiladu cydlyniant mewn cymuned sy'n nodedig am lefelau uchel o amddifadedd. Ceisir yn aml am elfen ffydd yr hyn a gynigir – mae’r addody bob ar agor ar gyfer gweddi dawel – ond nid yw byth yn cael ei orfodi ar ymwelwyr na defnyddwyr.

·         Mae Dyma Ni, prosiect ar y cyd rhwng Croeso Menaia Chrynwyr Bangor, yn cefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng ngogledd Cymru ac yn helpu gyda’u hadsefydlu. Maent wedi cyflwyno tystiolaeth ar wahân am eu gwaith i’r Ymchwiliad hwn. Mae’r cyflwyniad hwnnw yn adlewyrchu cefnogaeth gyson eglwysi Cytûn i’r nod o weld Cymru yn Genedl Noddfa, syniad yr ymgyrchwyd drosto o’r cychwyn cyntaf gan grwpiau ffydd yng Nghymru, ac sy’n allweddol i hybu cydlyniant cymdeithasol pan fo pwnc lloches mor ddadleuol yn gyhoeddus.

Mae’r ystod eang o asiantaethau statudol a gwirfoddol sy’n partneru mewn prosiectau eglwysig fel y rhain – a llawer rhagor ledled Cymru – yn dangos sut y gall cymunedau ffydd ddarparu adeiladau sy’n hygyrch i’r gymuned, cynnull amrywiaeth o wahanol sefydliadau ac is-gymunedau i gydweithio, cynnig ffordd naturiol o gwrdd ag anghenion personol ac ysbrydol yn ogystal ag anghenion materol, a chynnig ymrwymiad i feithrin cydlyniant cymdeithasol ym mhopeth a wnânt.

Felly, rydym yn annog y Pwyllgor i argymell y dylai strategaeth a rhaglen Cydlyniant Cymdeithasol newydd gan Lywodraeth Cymru gynnwys cydnabyddiaeth benodol o’r dimensiwn ffydd i gydlyniant cymdeithasol, a galluogi cymorth a (lle y dymunir) cyllid statudol ar gyfer gwaith cydlyniant cymdeithasol sy’n deillio o ffydd.



[1] Data ar gyfer 20 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru wedi eu crynhoi o gronfa ddata ONS https://www.ons.gov.uk/datasets/create/filter-outputs/c70b45a1-fa73-480b-b786-eef261839a4a#get-data